Croeso i 

  

 

Pwyllgor Canolfan Cymuned Llangennech sydd yn berchen ar ac yn rheoli'r wefan hon.  Lluniwyd hi er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth am y Ganolfan, megis pa fath o gyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gael ac am ba weithgareddau sydd yn mynd yn eu blaen.

 
 
Defnyddiwch y dolennau cyswllt uchod i ganfod eich ffordd o gwmpas y safle os
gwelwch yn dda.

   

Lleolir y Ganolfan mewn safle cyfleus yng nghanol y pentref, tu ô�l i Heol Hendre ac yn ymyl Tafarn yr Hen Bont.  Mae llefydd parcio i 38 o geir yn gysylltiedig â'r Ganolfan, gan gynnwys llefydd ychwanegol ar gyfer pobl anabl o flaen yr adeilad.

Mae'r lleoliad gwledig wedi ysbrydoli aelodau o'r pwyllgor i sefydlu prosiect Gardd Gymunedol. Cychwynnwyd ar y gwaith eisoes drwy blannu bylbiau, gyda disgyblion o'r ysgolion lleol a phentrefwyr yn cymryd rhan.

Community centre (Front)Centre from rear 

Mae Llyfrgell Gangen Llangennech nawr wedi'i lleoli o fewn y Ganolfan.  Mae ystod o gyfleusterau ar gael ynddi, gan gynnwys hanner miliwn o lyfrau, cyfleusterau rhyngrwyd a phrosesu geiriau di-dâl a gwybodaeth gymunedol leol. 

   Library (3)Library

 

 

 

 

 

Diolch ichi am eich ymweliad a'n gwefan.  Mae croeso ichi ymweld � hi yn rheolaidd gan ein bod yn diweddaru'r manylion yn ddyddiol. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran cynnwys y wefan rhowch wybod inni os gwelwch yn dda.